Logo RNIB Cymru

RNIB Cymru

Cwrt Jones, Stryd Womanby,

Caerdydd, CF10 1BR

Tiny Rebel, Stryd Womanby,

Caerdydd, CF10 1BR

 

rnib.org.uk/Cymru 

Llinell Gymorth: 0303 123 9999

helpline@rnib.org.uk

 

At: Aelodau o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a

Chyfiawnder Cymdeithasol

 

23 Gorffennaf 2021

 

 

 

Ynghylch: Ymchwil diweddaraf RNIB i brofiadau pleidleisio pobl ddall ac â golwg rhannol

 

Rwy’n ysgrifennu at aelodau o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i dynnu eich sylw at ymchwil diweddar a gyhoeddwyd gan RNIB i brofiadau pleidleisio pobl ddall ac â golwg rhannol sy’n datgelu bod pobl â cholled golwg yn dal i wynebu rhwystrau annerbyniol wrth arfer yr hawl ddemocrataidd sylfaenol hon, bron i 150 o flynyddoedd ar ôl i’r Ddeddf Bleidleisio sicrhau’r hawl i bleidlais gyfrinachol. 

 

Canfu ymchwil gan RNIB, sydd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad ‘Turned Out’ atodedig, mai dim ond un ym mhob pump (19 y cant) o bleidleiswyr dall, a llai na hanner (46 y cant) o bleidleiswyr â golwg rhannol, oedd yn gallu pleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol yn yr etholiadau a gynhaliwyd ym mis Mai 2021, oedd yn cynnwys etholiadau’r Senedd. Yn ogystal, roedd llai na thraean y pleidleiswyr dall yn hapus â’u profiadau pleidleisio yn yr etholiadau eleni. 

 

Problemau’r system bresennol

 

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i bob gorsaf bleidleisio fod â fersiwn print bras o’r papur pleidleisio a dyfais bleidleisio gyffyrddadwy (TVD). Templed plastig yw’r ddyfais bleidleisio gyffyrddadwy sy’n cael ei osod dros y papur pleidleisio er mwyn galluogi pobl ddall ac â golwg rhannol i ddod o hyd i’r blychau pleidleisio ac i wybod ble i roi eu croes.

 

Fodd bynnag, nid yw’n dweud wrth y pleidleisiwr beth yw enwau a phleidiau’r ymgeiswyr. Mae hyn yn golygu bod angen cymorth gan aelod o’r teulu, ffrind, neu aelod o staff yr orsaf bleidleisio i ddarparu’r wybodaeth hon ar y rhan fwyaf o bobl â cholled golwg fel eu bod yn rhoi croes yn y blwch cywir. Ym mis Mai 2019, cafodd y system hon ei datgan fel un anghyfreithlon gan ddyfarniad llys.

 

Treial dyfais sain

 

Ar gyfer etholiadau mis Mai, bu RNIB yn gweithio gyda Swyddfa’r Cabinet yn San Steffan er mwyn treialu dewis mwy hygyrch ar gyfer pobl â cholled golwg. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio dyfais sain mewn gorsafoedd pleidleisio a oedd yn galluogi unigolion i wrando ar enwau’r ymgeiswyr, a thrwy ddefnyddio’r ddyfais sain ochr yn ochr â dyfais bleidleisio gyffyrddadwy roedd modd i unigolion wybod enwau’r ymgeiswyr a phleidleisio heb yr angen i neb arall fod yn bresennol. Arweiniodd cyflwyno’r ddyfais sain at wahaniaeth enfawr o ran gwneud pleidleisio yn brofiad cynhwysol a hygyrch i’r rhai a gymerodd ran.

 

Mae’r materion eraill sy’n cael eu trafod yn yr adroddiad yn cynnwys diffyg gwybodaeth hygyrch ar gael i bobl ddall ac â golwg rhannol cyn yr etholiadau; anghysondebau o ran hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio a lefelau gwybodaeth am y ffordd orau o gefnogi pleidleiswyr dall ac â golwg rhannol ar ddiwrnod yr etholiad; a phroblemau o ran diffyg hygyrchedd gyda’r system bleidleisio drwy’r post.   

 

Argymhellion

 

Mae RNIB yn galw am weithredu ar frys i wella profiadau pleidleiswyr dall ac â golwg rhannol cyn yr etholiadau lleol a fydd yn cael eu cynnal ym mis Mai 2022. Mae’r rhain yn cynnwys:

 

·        Sicrhau bod y chwaraewr sain a’r ddyfais bleidleisio gyffyrddadwy yn cael eu cyflwyno i orsafoedd pleidleisio er mwyn galluogi pobl ddall ac â golwg rhannol i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol

·        Sicrhau bod Swyddogion Llywyddu a’u staff wedi cael hyfforddiant ar golli golwg, ac am y cymorth y dylent ei gynnig i bobl ddall ac â golwg rhannol.

·        Sicrhau bod gwybodaeth sy’n cael ei darparu gan y gwasanaethau etholiadol cyn yr etholiadau mewn fformatau hygyrch

·        Sicrhau bod y system pleidleisio drwy’r post yn gwbl hygyrch i bobl ddall ac â golwg rhannol

 

Byddem yn hapus i drefnu cyflwyniad ar ganfyddiadau’r adroddiad ar gyfer y Pwyllgor be bai hynny o gymorth i chi. Os hoffech fanteisio ar y cyfle yma, mae modd i swyddogion y Pwyllgor gysylltu ag Elin Edwards, Rheolwr Materion Allanol RNIB Cymru, drwy Elin.Edwards@rnib.org.uk.

 

Yn gywir

 

 

Ansley Workman

Cyfarwyddwr, RNIB Cymru